Addysgu y Tu Hwnt i'r Ffiniau: Fframwaith Cysyniadol ac Athroniaeth Ddysgu'r Rhaglen Addysg Gychwynnol i Athrawon Arloesol yng Nghymru
Autor: | Allyson Hand, Manon Lewis, Berian Lewis, Malcolm Thomas, Gareth Emyr Evans, Siân Bowen, Susan Chapman, Daryl Phillips, Andrew James Davies, Mike Reed, Prysor Mason Davies, Barry Rees, Nicola Thomas, Clive Williams |
---|---|
Rok vydání: | 2020 |
Předmět: | |
Zdroj: | Cylchgrawn Addysg Cymru / Wales Journal of Education. 22 |
ISSN: | 2059-3716 2059-3708 |
DOI: | 10.16922/wje.22.1.6 |
Popis: | Mae'r papur hwn yn amlinellu datblygiad un rhaglen AGA integredig sy'n arwain at ddau lwybr SAC: Tystysgrif Addysg i Raddedigion Cynradd gyda Chyfoethogi Uwchradd; a Thystysgrif Addysg i Raddedigion Uwchradd gyda Chyfoethogi Cynradd. Mae rhaglen AGA integredig Dysgu Aber+ yn galluogi athrawon i 'addysgu y tu hwnt i'r ffiniau ar gyfer profiad cyfannol'. Mae'r papur yn adolygu fframwaith cysyniadol y rhaglen a'i hathroniaeth ddysgu ac wrth wneud hynny mae'n ystyried yr egwyddorion craidd a ddylanwadodd ar gynllun y rhaglen, fel a ganlyn: Partneriaeth Gynhwysol; Addysgeg Effeithiol; Addysgeg Integredig; Addysgeg Arbenigol ac wedi'i Chyfoethogi; Addysgeg a Rennir ac Adfyfyriol; Diwylliant Ymchwil Gwirioneddol Gydweithredol, Atebolrwydd Democrataidd ac wyth egwyddor yr Athroniaeth Ddysgu. Mae'r papur yn mynd ymlaen i esbonio sut mae'r rhaglen integredig yn cael ei chyflwyno drwy gyfrwng dull hwb clwstwr ar draws 5 rhanbarth hwb yng Nghanolbarth Cymru. Wrth wneud hyn, mae'n amlinellu rôl staff y Brifysgol a Phrif fentoriaid a mentoriaid Ysgolion Partner yn ogystal ag isafswm y gofynion ar gyfer athrawon dan hyfforddiant tra'u bod ar brofiad yn yr ysgol. Mae ystyriaeth hefyd yn cael ei rhoi i ddarpariaeth a chefnogaeth cyfrwng Cymraeg yn ogystal â rôl ganolog ymchwil o fewn y Bartneriaeth AGA gyfan. Mae'r papur yn cloi drwy ystyried beth sy'n arloesol am y rhaglen a'r manteision sy'n dod i'r athrawon dan hyfforddiant wrth ddilyn y rhaglen. |
Databáze: | OpenAIRE |
Externí odkaz: |